Mae ynddo drugareddau fil
A doniau yn ddidrai;
A rhyw ffyddlondeb fel y môr,
At ei gystuddiol rai.
Mae'i ddoniau yn rhagori 'mhell,
Ar holl freninoedd byd;
Ac 'rwyf yn teimlo'i fod e'i hun,
Yn hollol lanw 'mryd.
Ac yn ei gariad dwfn a maith,
Mi nofia tua'r nef;
Ac nid oes tymhestl fyth, na thòn,
Yn rhuo ynddo Ef.
Ddiffygiaf ddim,
er c'yd fy nhaith,
Tra pery grâs y nef;
Ac er mor lleied yw fy ngrym,
Mae digon ynddo Ef.
William Williams 1717-91
gwelir: Cyflawnder nerth cyflawnder gras Ffarwel greaduriaid gwycha'u ryw Hyd yma ni ddych'mygodd dyn Mae'm golwg acw tua'r wlad |
In him are a thousand mercies
And unebbing gifts;
And some faithfulness like the sea,
To his afflicted ones.
His gifts are far excelling
All the kings of the world;
And I am feeling he is himself,
Wholly flooding my mind.
And in his deep and vast love,
I shall swim towards heaven;
And no tempest, nor wave, shall ever be
Roaring in Him.
I shall not fail at all,
despite how long is my journey,
While the grace of heaven endures;
And despite how little is my strength,
There is sufficient in Him.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|